Mae Pedair wedi rhyddhau sengl arall oddi-ar eu halbwm diweddaraf.
‘Dos â Hi Adra’ ydy enw’r sengl sydd wedi glanio ers dydd Gwener 10 Ionawr.
Dyma’r ail sengl oddi ar albwm newydd Pedair, ‘Dadeni’, a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2024.
Wedi cyfnod hynod o brysur ers i’w halbwm cyntaf, ‘Mae ’na Olau’, gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn y llynedd, mae Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym yn falch o gael rhannu caneuon newydd sbon, ac yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous arall yn hanes y grŵp sydd wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Mae ‘Dos â Hi Adra’ yn anthem gignoeth sy’n cael ei gyrru gan ddrymio medrus Osian Huw Williams a gitâr fas Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) oedd hefyd yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu’r albwm ar y cyd â Pedair. Cyfansoddwyd y gân gan Meinir Gwilym.
“‘Y Gwrachod Teg’ oedd teitl ‘gweithiol’ y gân yma”, eglura Meinir.
“… hynny am mai’r Tylwyth… neu’r Gwrachod…Teg sy’n defnyddio eu greddf, a rhoddion natur i fendio enaid teilchion, i arwain y ’mennydd o’r niwl, ac i wnïo calon wedi’i rhwygo yn ôl at ei gilydd. Diolch am chwiorydd a brodyr – a chenedl– sy’n wrachod teg.”
Daeth Pedair yn ffynhonnell cysur a gobaith yng nghyfnod dyrys y clo, a bu eu perfformiadau byw niferus dros y blynyddoedd diwethaf yn tystio i’w poblogrwydd cynyddol.
Wrth i’r cyfeillgarwch rhyngddynt gryfhau, dwysáu hefyd wnaeth y cwlwm a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol wrth gydweithio a chyd-berfformio. Mae hynny bellach wedi dwyn ffrwyth mewn casgliad o ganeuon newydd sy’n adlewyrchiad o daith bywyd y misoedd a fu.
Machlud a gwawr, haul ac awel, dŵr, halen a thân… dyma rai o’r elfennau fu’n ffrwtian yn y pair ers rhyddhau’r albwm cyntaf. Bu sawl colled a newid byd ers hynny, ac mae’r modd mae’r byd ei hun yn newid yn ddychryn… Ond mae’r sengl yma, a chaneuon yr albwm newydd, yn ein hatgoffa fod pob diweddglo yn ddechrau newydd. Pan fydd cerrig mân yn ein baglu, daw natur, chwaeroliaeth, a chariad i’n codi’n ôl ar ein traed.