Mae cylchgrawn gerddoriaeth Y Selar yn chwilio am gyfranwyr newydd ar gyfer rhifyn Gwanwyn 2025 y cylchgrawn, fydd yn cael ei gyhoeddi o gwmpas Gŵyl Ddewi.
Mae cylchgrawn Y Selar, sy’n rhad ac am ddim, wedi bod yn cloriannu’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ers 2004. Fe’i dosbarthir i siopau Cymraeg ac i leoliadau eraill, fel ysgolion uwchradd, yn uniongyrchol ac mae’r Mentrau Iaith yn dosbarthu mewn mannau eraill yn lleol.
Mae Gruffudd ab Owain yn olygydd diweddaraf ar y cylchgrawn ers dwy flynedd bellach ac yn gwahodd pobl i gynnig syniadau ar gyfer darnau neu erthygl ar gyfer y rhifyn, boed yn artist i’w cyfweld neu ddarn nodwedd – po wreiddiolaf y syniad, y gorau meddai.
Cyhoeddwyd rhifyn diwethaf Y Selar erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, ond dywed Gruffudd ei fod yn awyddus i ailwampio rhywfaint ar y fformat, a bod denu cyfranwyr newydd yn ran pwysig o hynny. Fel rhan o’r broses, mae’n bwriadu cynnal sesiwn Teams gyda darpar gyfranwyr ddiwedd mis Ionawr er mwyn trafod syniadau.
“Er bod rhai eitemau wedi parhau dros gyfnod hir, mae’r Selar bob amser wedi bod yn barod iawn i esblygu a datblygu dros y blynyddoedd” meddai Gruffudd ab Owain.
“Dwi’n credu bod hyn yn bwysig iawn, a dwi wedi dechrau rhoi fy stamp fy hun ar y cynnwys ers dechrau’r swydd fel golygydd. Er hynny, mae cael cyfranwyr amrywiol, a datblygu cyfranwyr newydd, wastad wedi bod yn amcan pwysig iawn hefyd a dwi’n awyddus i weld enwau newydd rhwng y cloriau.
“Y bwriad ydi cynnal cyfarfod Teams gyda’r holl gyfranwyr cyn diwedd mis Ionawr i roi pawb ar waith.”
Os oes gennych ddiddordeb, yna mae croeso mawr i chi gysylltu gyda Gruffudd ab Owain (golygydd) – gruffuddemrys@gmail.com.