Sengl newydd Siula

Mae’r ddeuawd Siula wedi dychwelyd gyda’u sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Libertino. Siula ydy prosiect y cerddorion Iqra Malik a Llion Robertson ac enw eu sengl newydd ydy ‘Llygaid’.

Sengl gyntaf Siula

Mae’r prosiect cerddorol newydd o’r enw Siula wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf. ‘Golau Gwir’ ac ‘Ischia’ ydy enw’r traciau sydd wedi cael eu rhyddhau fel sengl ddwbl ar label Recordiau Libertino.