Mae Mali Hâf wedi ei datgelu fel un o’r artistiaid sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Emerging Talent’ Gŵyl Glastonbury eleni.
Mae Mali yn un o wyth artist fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol ynghyd ag Air Drawn Dagger, Ari Tsugi, Eli Dayo, Nat Oaks, Master Peace, Sarah Meth a Westside Cowboy.
Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar 26 Ebrill a bydd yr enillydd yn cael cynnig slot ar un o brif lwyfannau Glastonbury 2025. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn £5000 o gyllid datblygu gan Sefydliad y PRS.
Bydd dau artist arall sy’n dod yn agos i’r brig hefyd yn derbyn £2,500 gan y PRS.
Roedd Mali, ynghyd â’r saith arall sydd yn y rownd derfynol, wedi ei dewis o restr hir o 90 o artistiaid a gafodd ei llunio gan 30 o ohebwyr cerddoriaeth arlein gorau’r DU.