A hithau ar fin rhoi genedigaeth i’w plentyn cyntaf, mae Tara Bandito wedi rhyddhau’r sengl newydd, ‘Ufudd’.
Mae taith gerddorol Tara Bethan Orig Williams wedi bod yn stori o lwyddiant ysgubol ers y dyddiau cyntaf pan estynnodd y gantores allan i Recordiau Côsh yn ystod y cyfnod clo.
Drwy ryddhau cyfres o senglau pwerus fel ‘Blerr’ a ‘Rhyl’, agorodd Tara’r drws i gwblhau ei halbwm cyntaf o gerddoriaeth wreiddiol, dros ugain mlynedd ers iddi gychwyn perfformio a chanu.
Ers rhyddhau ei halbwm hunan-deitledig, sydd wedi’i ryddhau’n ddigidol yn ogystal ag ar CD a feinyl, mae Tara wedi cydweithio gydag artistiaid blaenllaw Cymraeg fel Popeth, Gai Toms a Band Pres Llareggub, yn ogystal â pherfformio ar lwyfannau mwyaf Cymru a thu hwnt gan gynnwys cynrychioli Cymru yng ngŵyl gerddorol LUCfest yn Taiwan.
Yn wir, mae cyflawni breuddwydion wedi bod yn thema i’r gantores yn y blynyddoedd diweddar ac yn gynharach eleni cyhoeddodd Tara ei bod hi wrthi’n cyflawni’r fwyaf ar hyn o bryd – drwy ddod yn fam yn yr wythnosau nesaf.
“Ma’ bywyd wedi newid lot i mi ‘leni ac wedi fy ngorfodi i arafu” meddai Tara.
“Ddoth ‘Ufudd’ i mi ar ddechrau’r siwrne o ddod yn fam a dwi’n gyffrous i weld lle eith y siwrne a fi nesa’; mewn bywyd a miwsig.”
Gan barhau yn nhraddodiad yr artist o greu cynnyrch gweledol gwych i gyd-fynd â’i cherddoriaeth, mae Tara wedi creu fideo i’r gân sy’n dathlu ei chorff wrth gario’r babi ac yn dangos pa mor bwerus ydi’r broses gyfan.
Dyma’r fideo: