Mae heddlu, sef prosiect diweddaraf y cerddor Rhodri Daniel o Lanbedr Pont Steffan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Cut the Rope’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar label Zawn Records.
Mae Rhodri Daniel yn gyfarwydd fel cyn aelod o’r grwpiau Java ac Estrons. Cafodd Estrons yn arbennig dipyn o sylw gan y cyfryngau gan gynnwys adroddiadau da yng nghyhoeddiadau NME, Vice, DIY, The Guardian ac yr Independent.
Ar ôl i Estrons chwalu yn 2019, daeth Rhodri’n ymwybodol o’r ffaith bod ei glyw wedi ei ddifrodi’n ddifrifol ar ôl blynyddoedd o berfformio’n fyw gyda’r band.
Bu’n rhaid iddo gael egwyl o berfformio’r fyw o ganlyniad, ac arwiniodd hyn at gyfansoddi ei albwm unigol cyntaf, ‘Cantref’, a ryddhawyd yn 2022 wrth gerdded 900 milltir cyflawn Llwybr Arfordir Cymru.
Ar ôl treulio cyfnod pellach yn ysgrifennu ac yn arbrofi gyda cherddoriaeth ac offerynnau newydd, mae Rhodri bellach wedi gorffen ei ail albwm, ‘Tramor’, a fydd yn cael ei ryddhau ar 14 Awst eleni.
‘Cut The Rope’ ydy’r drydedd sengl o’r albwm ‘Tramor’ ac mae’n apêl amrwd ac emosiynnol gan y canwr i rywun mae ei garu i gerdded i ffwrdd, ac achub eu hunain. Mae’r gân am adnabod difrod eich hunain a pheidio â llusgo rhywun arall i lawr gyda chi.
Dyma drac gonest, sy’n cydio yn y gwir poenus sy’n golygu weithiau bod cariad yn golygu camu i ffwrdd.