Mae’r artist o Gaerdydd, Mali Hâf, wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n ddathliad o, ac yn ymbweru merched a’r gymuned LGBTQ+.
‘H.W.F.M’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Yn cyffroi cynulleidfaoedd ar lwyfan, ac yn hudo gwrandawyr gyda’i melodïau etheraidd, mae Mali yn siŵr o fod yn un i’w gwylio dros y misoedd nesaf wrth iddi weithio tuag at ei halbwm cyntaf sy’n cyfuno alawon gwerin traddodiadol gyda churiadau electroneg arbrofol.
Er yn enw cyfarwydd o fewn cylchoedd cerddorol Cymru bellach, mae llais melfedaidd Mali yn bachu sylw yn syth a dyna’n union y mae’n llwyddo i’w wneud gyda’i sengl ddiweddaraf.
Wedi’i hysgrifennu fel teyrnged i fenywod annibynnol, mae llythrennau’r trac yn cyfeirio at ‘Hen Wlad Fy Mamau’ ac yn dathlu Cymru fodern.
Fel pob trac Mali Hâf, mae’n deimladwy, yn chwareus ac yn bwerus – ond yn fwy na dim, yn herio gwrandawyr i feddwl yn agored.
“Ysgrifennais y gân hon allan o rwystredigaeth – gweld merched yn dal i fod yn anniogel yn eu cartrefi, clywed yr un hen straeon ar y newyddion am gamdriniaeth, a chofio fy mhrofiadau fy hun” eglura Mali.
“Efallai bod Cymru yn wlad fach, ond pam na allwn ni arwain y ffordd?”
Yn gân sy’n dathlu ac yn ymbweru merched a’r gymuned LGBTQ+, mae ‘H.W.F.M’ ar gael yn ddigidol ar y llwyfannau arferol.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: