Ynys yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Yr albwm Dosbarth Nos gan y band Ynys oedd enillwyr gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  

Datgelwyd y newyddion yn y Pafiliwn ar brynhawn dydd Mercher yr Eisteddfod ac roedd aelodau o’r band yno i dderbyn y wobr. 

Ynys yw band Dylan Hughes gynt o’r Race Horses / Radio Luxembourg, ac roedd aelodau ei fand Heledd Watkins a Sam Jones (sef aelodau HMS Morris hefyd) yno’n gwmni iddo. 

Rhyddhawyd Dosbarth Nos ym mis Gorffennaf 2024, ac mae’n ddilyniant i albwm hunan-deitlog cyntaf y band a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023.

Wedi’i recordio’n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng ngorllewin Cymru, mae’r albwm yn arddangos esblygiad cerddorol Ynys – gan gofleidio palet sain mwy egnïol ac anturus gyda’i drefniadau deinamig rhyfeddol, a dal hanfod perfformiadau byw’r band.

Mae Dosbarth Nos yn ymgorffori uchafbwynt taith greadigol Ynys, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn esblygiad y prosiect. Mae dull manwl Hughes o gyfansoddi caneuon, ynghyd ag egni cydweithredol y band, wedi arwain at albwm sy’n llawn bwriad a hyder newydd.

Mae’r wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei drefnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru ac yn dathlu’r gymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.

Panel o feirniaid sy’n gyfrifol am ddewis yr enillydd, a’r beirniaid eleni oedd Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

Roedd 10 o artistiaid a bandiau ar y rhestr fer eleni, gan gynnwys Adwaith, Bwncath, Gwenno Morgan, Pys Melyn ac Ynys. 

Dyma’t teitl drac: