Fideo Ynys ar gyfer ‘Dosbarth Nos’
Mae’r band o Aberystwyth, Ynys, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Hi Sy’n Canu’. Mae’r trac yn ymddangos ar albwm diweddaraf Ynys, ‘Dosbarth Nos’, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
Mae’r band o Aberystwyth, Ynys, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Hi Sy’n Canu’. Mae’r trac yn ymddangos ar albwm diweddaraf Ynys, ‘Dosbarth Nos’, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni.
Dros y penwythnos bu’r band Cymraeg, Ynys, yn perfformio gigs fel rhan o ŵyl SUNS Europe yn Udine, Yr Eidal.
Mae’r band Ynys wedi rhyddhau eu sengl newydd, sef teitl drac eu halbwm diweddaraf. A hwythau’n gweld eu hail albwm, ‘Dosbarth Nos’, ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024, maent wedi penderfynu cyhoeddi’r trac sy’n rhannu enw’r record hir fel sengl.
Dau fand Cymraeg oedd cyd-enillwyr gwobr amgen y wefan gerddoriaeth God is in The TV Zine. Gwobr Neutron ydy enw’r wobr mae God is in The TV yn ei ddyfarnu’n flynyddol fel eu hateb amgen i’r enwog Wobr Mercury.
Mae chwe artist o Gymru wedi eu cynnwys ar restr hir ‘Gwobr Neutron’ eleni, sef gwobr amgen gwefan gerddoriaeth God is in The TV, a’u gwrthbwynt hwy i Wobr Mercury.
Mae Ynys wedi rhyddhau eu halbwm newydd, Dosbarth Nos, ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf. Cyn rhyddhau’r albwm llawn, fe wnaeth y band rannu un tamaid bach olaf i aros pryd ar ffurf y sengl ‘Shindig’ ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.
Mae Ynys, y grŵp sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol o Aberystwth Dylan Hughes, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs byw yn yr hydref eleni.
Mae Ynys, sef y band sy’n cael ei arwain gan Dylan Hughes, gynt o Radio Luxembourg a Race Horses, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
Mae’r prosiect cerddorol o Aberystwyth, Ynys, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, gan hefyd gyhoeddi bod albwm newydd ar y ffordd.