Cyhoeddi fideo Ffenest 

Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Emynau’ gan y band o Ddyffryn Conwy, Ffenest, ydy’r diweddaraf  i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.

Ffenest ydy prosiect diweddaraf y cerddor ddau gyn-aelod o Sen Segur, George Amor a Ben Ellis, ynghyd ag Alex Morrison a Guto Evans.

Fe ryddhawyd eu halbwm ‘Emynau Anghyflawn’ yn mis Mawrth eleni.

‘Emynau’ ydy’r trac agoriadaol o’r albwm hwnnw ac mae’r fideo newydd ar gyfer y gan wedi’i gyfarwyddo gan Llyr Evans.

Dyma’r fideo cerddoriaeth cyfoes newydd diweddaraf mewn cyfres o 10 sy’n cael  eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.  

Gadael Ymateb