Achlysurol yn ôl gyda sengl newydd

Mae’r band o Arfon, Achlysurol, wedi yn ôl gyda’u sengl newydd. 

‘Pan Mae’r Haul yn Machlud’ ydy enw’r trac hafaidd newydd ganddynt sy’n dathlu harddwch syml a thawelwch eu pentref genedigol, Felinheli, ar ddiwedd y dydd.

Yn ôl y band, does unman well ar y ddaear na’r pentref pan fo’r haul yn machlud dros y môr. 

Dyma’r sengl gyntaf o albwm cyntaf y band ar label Côsh, ar ôl iddynt ryddhau ‘Rhywle Pell’, eu halbwm cyntaf erioed ar Recordiau JigCal yn 2023. 

Mae’r sengl newydd yn nodi dechrau pennod newydd i’r triawd, sy’n cynnwys y ddau frawd Aled ac Ifan Emyr, ynghyd ag Ifan Williams. Mewn rhai perfformiadau byw, mae’r grŵp yn ehangu i bump aelod gyda chymorth Elis Derby a Magi Tudur.

Yn ddiweddar, recordiwyd podlediad rhwng Yws Gwynedd, perchennog label Côsh, ac Aled, prif leisydd ac ysgrifennydd yr albwm, lle trafodwyd y broses greadigol a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r deunydd newydd. 

Bydd y podlediad yn cael ei ryddhau yn fuan, ac mae’r sgyrsiau’n amrywio o ddyddiau Aled yng ngholeg yn Llundain, i bethau ychydig llai difrifol. 

Mae ‘Pan Mae’r Haul yn Machlud’ yn cynnig cipolwg cynnes a gonest ar gyfeiriad newydd Achlysurol, gan osod y naws ar gyfer albwm cyntaf y band ar Côsh. 

Recordiwyd y trac yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth ac mae wedi’i gynhyrchu gan Rich James Roberts. 

Bydd cyfres o senglau yn dod allan cyn rhyddhau’r albwm cyfan cyn yr haf.

Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau Achlysurol yn rhifyn gwanwyn cylchgrawn Y Selar fydd allan ddiwedd mis Chwefror.

Gadael Ymateb