Mae Y Selar wedi dechrau cyhoeddi rhagor o restrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cyd-weithrediad â BBC Radio Cymru.
Mae pedair rhestr fer wedi eu cyhoeddi eisoes sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, ‘Record Fer Orau’, ‘Seren y Sin’ a ‘Digwyddiad Byw Gorau’.
Datgelwyd dwy restr fer arall ar raglen Mirain Iwerdydd nos Fercher diwethaf (4 Chwefror) sef ‘Record Hir Orau’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.
Y tri albwm ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus ar gyfer categori ‘Record Hir Orau’, a noddir gan PYST, oedd ‘Er Gwaetha’ Pob Dim’ gan Yr Anghysur; ‘Ysgafn’ gan Rhi Jorj; ac ‘Ymarfer Byw’ gan Dafydd Owain.
Noddir y wobr am y ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ gan gylchgrawn Lingo Newydd, a’r tri sydd wedi dod i frig y bleidlais ydy ‘Syched Cas’ gan Dewin; ‘Disgyn’ gan Buddug; a ‘Bythwyrdd’ gan TewTewTennau.
Yna, brynhawn Gwener (6 Chwefror) tro Ifan Davies oedd hi i ddatgelu rhestr fer arall, sef hwnnw am yr ‘Artist Unigol Gorau’ sy’n cael ei noddi gan Calendr360.
Y tri artist fydd â gobaith o gipio’r wobr yn noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 21 Chwefror ydy Alis Glyn, Buddug a Dafydd Owain.
Bydd mwy o restrau byr yn cael eu datgelu ar raglenni Mirain Iwerydd ac Ifan Davies yr wythnos hon.
Mae tocynnau noson Wobrau’r Selar ar werth nawr.
Rhestrau byr diweddaraf:
Record Hir Orau (noddir gan PYST)
Er Gwaetha’ Pob Dim – Yr Anghysur
Ysgafn – Rhi Jorj
Ymarfer Byw – Dafydd Owain
Fideo Cerddoriaeth Gorau (noddir gan Lingo Newydd)
Syched Cas – Dewin
Disgyn – Buddug
Bythwyrdd – TewTewTennau
Artist Unigol Gorau (noddir gan Calendr360)
Alis Glyn
Buddug
Dafydd Owain