Sengl newydd Neil Rosser

Mae’r canwr poblogaidd a bytholwyrdd,  Neil Rosser, wedi rhyddhau ei sengl newydd. 

‘Ffrindiau Gydol Oes’ ydy enw’r trac newydd ganddo.

Weithiau does dim angen i gyfansoddwr fynd i chwilio am ysbrydoliaeth a dyna’n union ddigwyddodd gyda sengl newydd Neil Rosser.

Ysgrifennwyd y gân ar gais Heddyr Gregory fel anrheg pen-blwydd i’w ffrind gorau ers dyddiau’r ysgol, Catrin Evans. 

Mae ‘Ffrindiau Gydol Oes’ yn sôn am eu cyfeillgarwch drwy gyfnodau o hapusrwydd yn ogystal â chyfnodau mwy heriol. Mae’r neges yn syml; mae gwir gyfeillgarwch yn para am oes. 

Yn gerddorol, mae’r trac wedi’i wreiddio mewn jazz Dixieland ac yn cynnwys unawd clarinét gwefreiddiol gan y cerddor jazz, Alun Williams.

 

Gadael Ymateb