Agor cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2026

Wrth i ddyddiad y Brifwyl eleni agosáu, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion eu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau blynyddol

Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Maes B) a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd.

Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn ymweld â Llantood yng Ngogledd Sir Benfro fis Awst ac mae disgwyl i’r gystadleuaeth fod yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth gyfoes yr wythnos unwaith eto. 

Mae Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau neu artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, canu gwerin cyfoes neu unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd.

Mae enillwyr diweddar y gystadleuaeth yn cynnwys Y Ddelwedd yn 2025, Dim Gwastraff yn 2024, Moss Carpet yn 2023 a Sachasom yn 2022. 

Er mwyn cystadlu eleni, rhaid cofrestru a chyflwyno demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud i gynnwys rhwng 2 a 4 cân wreiddiol cyn 1 Mai 2026. Yna bydd y beirniaid yn dewis 4 band neu artist i fynd ymlaen i’r rownd nesaf. 

Bydd yr artistiaid sy’n cyrraedd yr ail rownd yn cael cyfle i recordio dwy gân mewn set byw yng Nghlwb Ifor Bach neu leoliad yng ngogledd Cymru gyda’r caneuon yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yn arwain at yr Eisteddfod. 

Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i berfformio set byw 20 munud o ganeuon gwreiddiol Cymraeg (neu yn ddi-eiriau) ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher yr Eisteddfod cyn cyhoeddi enw’r artist/band buddugol. 

Bydd y band neu artist buddugol yn perfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod a hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1000 sy’n roddedig gan Gyngor Cymuned Eglwyswrw. 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydy hanner dydd ar 1 Mai 2026. 

 

Gadael Ymateb