‘Cwmwl Tystion III / Empathy’ yw’r trydydd pennod, a rhan olaf prosiect jazz arloesol sy’n ymdrin â diwylliant a hanes Cymru.
Y cerddor jazz arbrofol a thrwmpedwr uchel ei barch, Tomos Williams, sy’n arwain prosiect Cwmwl Tystion, ac mae’n tynnu ar gymorth nifer o artistiaid amlwg eraill wrth wneud hynny.
Ar ôl ffurfio’r prosiect i deithio yn 2019, rhyddhawyd albwm cyntaf Cwmwm Tystion ym Mawrth 2021.
Dilynodd ‘Cwmwl Tystion II / Riot!’ yn Hydref 2023.
Mae’r cyfansoddiad gwreiddiol ‘Y Gyfres Empathi’, gan Tomos Williams yn cynnwys rhythmau dwfn, unawdau gitâr tanllyd, synnau bas trwm, alawon gwerin Cymreig, byrfyfyrio ffyrnig, ochr yn ochr ag eiliadau o dynerwch syfrdanol a recordiad o emyn Gymreig.
Mae’r ddeuawd lleisiol ar ddechrau ‘Beth yw maddau? / What is forgiving?’ yn eistedd ochr yn ochr â ffync amrwd y gân ‘Welsh Not’ a roc trwm ‘Mynydd Epynt 1940’.
Canolbwynt y Gyfres yw teyrnged i drychineb Aberfan tra bod y gân werin Gymreig ‘Hiraeth’ wedi’i phlethu drwy’r gyfres, gan wneud tair ymddangosiad. Mae yna hefyd deyrngedau i Paul Robeson a’i berthynas agos â Chymru, Streic y Glowyr 1984 a chydnabyddiaeth o statws presennol Cymru fel Cenedl Noddfa (mae mwy o wybodaeth am y rhain yn y llyfryn sydd yn dod gyda’r albym).
Roedd y band Harriet Tubman yn ddylanwad hollbwysig ar ‘Cwmwl Tystion’ ac mae Melvin Gibbs, sef basydd Harriet Tubman, ar y recordiad hwn ac yn garreg filltir i jazz o Gymru.
Mae Nguyên Lê wedi bod yn feistr rhyngwladol ar gitâr roc/fusion ers degawdau, gyda’i waith gitâr tanbaid yn dod â John McLaughlin a Mike Stern i’r meddwl, tra’i fod hefyd yn cyfeilio llais Mared Williams yn hynod sensitif.
Teithiodd y band o amgylch Cymru gydag un perfformiad yn Llundain yn ystod Haf 2024. Recordiwyd y gerddoriaeth ar yr albwm yn Cafe OTO, Llundain, Theatr Soar, Merthyr Tudful a’r Lost ARC, Rhaeadr Gwy. Cafodd pob perfformiad ei ategu hefyd gan ddelweddau byw Simon Proffitt.
Mae’r teitl ‘Cwmwl Tystion’, er ei fod yn Feiblaidd yn wreiddiol, yn deillio yn yr achos hwn o gerdd y bardd, heddychwr a chenedlaetholwr Cymreig Waldo Williams (1904-1971) o’r enw ‘Pa Beth yw Dyn?’ lle mae’n wynebu materion dirfodol ei gyfnod.
“Yn dilyn llwyddiant y ddau fersiwn blaenorol o ‘Cwmwl Tystion’ yn 2019 a 2021, roeddwn yn teimlo y dylai’r prosiect fod yn drioleg, felly Cwmwl Tystion III / Empathy byddai’r bennod ola” meddai Tomos Williams.
“Roeddwn i’n awyddus i wahodd dau artist rhyngwladol anhygoel i ymuno â mi ar y daith olaf hon. Mae Melvin Gibbs a Nguyên Lê ill dau wedi bod yn arwyr i mi ers degawdau, felly roedd teithio Cymru a pherfformio gyda nhw noson ar ôl noson braidd yn swreal! Daeth y gerddoriaeth yn fyw a gwnaeth y ddau osod eu sain a’u hawdurdod ar y gerddoriaeth yn y ffordd orau posib.
“Mae lleisiau godidog Eadyth Crawford a Mared Williams yn adnabyddus i ni yma yng Ngymru ond dwi’n gobeithio bydd yr albym yma yn ei cyflwyno i gynulleidfa newydd. Mae’r ddwy yn dalentau rhyfeddol, ac yn hanfodol i lwyddiant y bennod olaf hon o ‘Gwmwl Tystion’.”
Cerddorion Cwmwl Tystion III ydy: Tomos Williams (trwmped, cyfansoddwr), Nguyên Lê (gitâr drydan), Eadyth Crawford (llais, effeithiau), Mared Williams (llais), Melvin Gibbs (bas trydan, effeithiau), Mark O’Connor (drymiau), Simon Proffitt (delweddau byw).