Wrth nodi blwyddyn ers rhyddhau’r trac fel sengl, mae’r band Diffiniad wedi rhyddhau fersiwn newydd o ‘Ceiniog a Dimau’.
Meddai’r band bod y fersiwn newydd beiddgar o’r trac yn eu gweld yn ei ail-ddychmygu fel y gân gyntaf erioed wedi’i hysbrydoli gan K-pop yn yr iaith Gymraeg.
Mae’r ‘Won Remix’ newydd yn cyfuno geiriau Cymraeg a Chorëeg, gan asio sain unigryw Diffiniad â chynhyrchiad egnïol, hooks pop manwl ac uchelgais fyd-eang K-pop.
Gyda’r prif leisiau gan Glain, a chyfraniadau lleisiol ychwanegol gan y gantores Jasmine V, y canlyniad yw trac trawiadol sy’n pontio diwylliannau ac yn gwthio cerddoriaeth Gymraeg i dir newydd cyffrous.
Drwy ail-ddychmygu ‘Ceiniog a Dimau’, mae Diffiniad yn parhau i herio syniadau am le’r Gymraeg — nid fel iaith ymylol, ond fel llais byw, modern a rhyngwladol.