Sengl newydd Gwaed

Mae’r band roc amgen o Wynedd, Gwaed, wedi dychwelyd gyda sengl newydd, ‘Iselder’, ers dydd Gwener diwethaf, 27 Chwefror.  

Gwaed ydy Osian Rhys Roberts  (llais a gitar), Steffan Harri Roberts (bas), Joseph Perkins (gitar) ac Alexander Moller (dryms). 

Ffurfiodd y band yn wreiddiol yng nghanol y 2010au gan sefydlu sain oedd yn cydbwyso gweadau garw â bregusrwydd. 

Yn 2017, bu iddynt ryddhau eu EP cyntaf ‘Sgerbydau Haf’, gan eu sefydlu fel band nad oedd yn ofni archwilio themâu megis mewnsylliad, melancholiaeth ac hunaniaeth, wedi’u cyflwyno trwy furiau o ffwzz disglair ac haenau o harmonïau lleisiol.

Nawr, bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae Gwaed yn dychwelyd gyda ffocws a thân creadigol newydd.

Mae ‘Iselder’ yn cael ei rhyddhau trwy Recordiau De Vam, ac mae’n ailgyflwyniad pwerus sy’n sianelu’r pwysau emosiynol a awgrymir gan ei theitl, mewn i brofiad sonig tywyll, breuddwydiol ei naws. 

Mae’r trac yn arwydd o bennod newydd feiddgar: yn dywyllach, yn ddyfnach, ac yn fwy sicr ei hunaniaeth, tra’n cadw’r craidd atmosfferig a ddiffiniodd eu sain cynnar.

Wedi’i wreiddio yn nhirweddau mynyddig Eryri, mae cerddoriaeth y band yn cario ymdeimlad o unigedd ac harddwch naturiol — trwy gyfuno gitarau ffyrnig, rhythmau amrywiol, a melodïau hudolus sy’n priodi rhyw deimlad od o agosatrwydd ac ehangder di-ddiwedd.

Gyda’u dychweliad, mae GWAED yn bwriadu hawlio tir newydd yn y gofod roc amgen a ‘shoegaze’ — gan gario ysbryd Gogledd Cymru i bob cytgan atseiniol.