Ail sengl Los Blancos o’u trydydd albwm 

Mae Los Blancos wedi rhyddhau aill sengl fel tamaid i aros pryd nes eu halbwm newydd.

 ‘Y Wiber’ ydy enw’r trac newydd fydd allan ar ddydd Mawrth 17 Tachwedd ar label Libertino.

Dychwelodd Los Blancos, y band pump aelod o Sir Gaerfyrddin, yr haf hwn gydag egni a brwdfrydedd o’r newydd. Cafodd eu sengl ‘Olew’r Olewydd’ gefnogaeth wych gan BBC Radio 6 Music a BBC Introducing, gan gynnwys Craig Charles ac Emily Pilbeam.

“Los Blancos … sounding as solid as ever if you ask me” meddai Emily Pilbeam, BBC Radio 6 Music.

Bellach, maen nhw’n ôl gydag ‘Y Wiber’, yr ail sengl o’u trydydd albwm, ‘Er Lles y Tŷ’, a fydd allan ddechrau 2027 ar label Libertino.

Dechreuodd ‘Y Wiber’ gyda riff gitâr roedd Gwyn wedi bod yn ei gadw ers blynyddoedd, cyn i’r gân ddod at ei gilydd yn ystod soundcheck mewn gig yn Aberystwyth. 

Y canlyniad yw indie roc hamddenol gydag awgrym o country, gitars miniog ac alaw bop fachog. Dychmygwch Pavement yn cwrdd â MJ Lenderman, gydag ychydig o hiwmor sych John Prine yn y gymysgedd.

Mae’r geiriau’n archwilio natur gymhleth y gwir, a sut gall rhywbeth sy’n ymddangos yn dyner droi’n wenwynig. Mae’r llinell “ma pawb yn pigo trwyn yn y car” hefyd yn dangos dawn y band i ddod o hyd i hiwmor yn y pethau mwyaf cyffredin.

Ar ôl bron i ddegawd gyda’i gilydd a chyfnod o flinder creadigol, mae Los Blancos wedi ailddarganfod y pleser o wneud cerddoriaeth fel pum ffrind. Cafodd ‘Er Lles y Tŷ’ ei gynhyrchu a’i recordio gan eu drymiwr Emyr Siôn, gan ddal egni amrwd a swyn naturiol y band.

Gadael Ymateb