Sengl newydd Betsan

Mae Betsan (Lees) wedi rhyddhau ei sengl newydd. ‘Who I Need To Be’ ydy enw’r faled pop ddramatig sy’n seliedig ar y rhan piano, gyda llinynnau byw, band ac unawd trwmped. Mae’r gân yn adeiladu tuag at ei huchafbwynt cyn dychwelyd at y trefniant syml sydd i’w gael ar y dechrau.

“Ysgrifennais ‘Who I Need To Be’ o’m hisymwybod, cyn fy mod yn barod i gyfaddef bod pob gair yn wir” meddai Betsan. 

“Mae’n ymwneud â bod yn fenyw ym myd dynion, a pha mor hawdd yw hi i ddechrau credu mai chi yw’r broblem pan fydd rhywun yn eich trin yn wael.”

Gan dynnu ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Olivia Dean, Sabrina Carpenter a Lizzy McAlpine, mae Betsan yn parhau i ddatblygu sain sy’n cyfuno pop cyfoes caboledig â geiriau ystyrlon, diffuant a llawn teimlad.

Mae Betsan yn artist annibynnol ddwyieithog o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn perfformio’n rheolaidd gyda’i band o amgylch Llundain a Chaerdydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ymhlith ei pherfformiadau diweddaraf mae ‘Llwyfan y Maes’ – Eisteddfod, Gŵyl Sŵn a ‘New Music Monday’ yn The Ned, Llundain, digwyddiad a gyflwynwyd gan Jodie Bryant, cyflwynydd BBC Radio 1.

Cafodd ei sengl flaenorol, ‘Erase It’, ei ryddhau ar 12 Awst, a chafodd ei hychwanegu i A-List BBC Radio Wales.

Gadael Ymateb