Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau albwm newydd o ganeuon a recordiwyd yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
“Agorwch ochrau’r Babell Lên!”
Dyma oedd neges rheolwyr y Babell Lên enwog, gyda’i streipiau melyn a glas, yn Eisteddfod Genedlaethol Llantwd ar noson gofiadwy ym mis Awst.
Wedi trafodaeth frys gyda’r tîm diogelwch, swyddogion yr Eisteddfod a’r adran sain, rhoddwyd caniatâd i adael i gynifer o bobl â phosibl ymuno â’r dathliad wrth i Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas baratoi i gamu ar y llwyfan.
Am 10.30pm, yn dilyn cyflwyniad gan Eurfyl Lewis, cychwynnodd y cerddorion set awr a chwarter, yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y band dros y pedair blynedd diwethaf.
Yr hyn a ddilynodd oedd noson na fyddai’r gynulleidfa — na’r band — yn ei hanghofio.
O’r canu torfol a’r eiliadau mwy emosiynol i’r hiwmor a’r egni a ddaeth yn sgil perfformiad byw y band, cafodd y noson ei recordio er mwyn cipio’r awyrgylch hwnnw a’i gadw mewn sain.
Mae’r albwm byw newydd yn cynnwys 14 o ganeuon, yn gymysgedd o ganeuon adnabyddus a ffefrynnau’r band, gan gynnwys ‘Sosban Fach’, ‘Ceidwad y Goleudy’, ‘Titw Tomos Las’ a ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd pan ymunodd Cleif Harpwood â’r band ar y llwyfan i ganu ‘Pishyn’, gan ychwanegu pennod arbennig arall at noson oedd eisoes yn llawn cymeriad.
“Roedd hi’n un o’r nosweithiau hynny lle’r oedd popeth yn clicio,” meddai Mei Gwynedd.
“Roedd y gynulleidfa yno o’r dechrau, ac roedd yr ymateb yn anhygoel. Roedd recordio’r noson yn golygu ein bod ni’n gallu dal rhywfaint o’r egni yna a’i roi ar record.”
Dyma ‘Gwlith y Wawr’ o’r noson: