Sengl newydd Connemara

Mae’r band ifanc o Lŷn, Connemara, wedi rhyddhau eu sengl newydd.

‘Diwylliannau’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Sownd ers dydd Gwener diwethaf, 6 Tachwedd.

Cafodd y band eu cynnwys ar restr ‘Artistiaid Ifainc i’w Gwylio yn 2026’ Y Selar ar ddechrau’r flwyddyn, ac maent wedi bod yn brysur yn gigio ers hynny.

Efallai mai eu gig mwyaf hyd yma oedd hwnnw i filoedd o bobl yn rali annibynniaeth YesCymru yn Aberystwyth ar ddiwedd mis Medi eleni. 

Gadael Ymateb