Albwm Cymraeg cyntaf Aleighcia Scott yn glanio

Mae’r gantores reggae Aleighcia Scott wedi rhyddhau ei halbwm newydd – ‘Taith’ ydy enw’r record hir sydd allan ar label Côsh.  

Ychydig flynyddoedd yn ôl, dysgu Cymraeg oedd Aleighcia Scott. Yr haf yma, mae hi’n rhyddhau  ei halbwm Cymraeg cyntaf ac yn cael ei hurddo i Orsedd Cymru – dwy garreg filltir o fewn  dyddiau i’w gilydd. 

Mae ‘Taith’, albwm Cymraeg cyntaf y gantores reggae, allan ers 31 Gorffennaf ar label  Recordiau Côsh – ychydig ddyddiau cyn iddi dderbyn Gwisg Werdd yr Orsedd yn Eisteddfod  Genedlaethol y Garreg Las, Sir Benfro (1-8 Awst). 

Mae’r teitl yn dweud y cyfan am y record. Mae ‘Taith’ yn olrhain siwrne Aleighcia gyda’r  Gymraeg – iaith y bu’n ei dysgu yng ngolwg pawb, o’r gyfres deledu Iaith ar Daith i’w rôl fel un o  hyfforddwyr Y Llais ar S4C.  

Mae’r un daith wedi arwain at gyfres o senglau Cymraeg arloesol, gan gynnwys ‘Dod o’r Galon’ – y gân reggae Gymraeg gyntaf erioed i gyrraedd rhif un ar siart Reggae iTunes. 

Recordiwyd yr albwm gyda Yws Gwynedd a Rich James Roberts, ac mae’n cynnwys deg trac – o’r  senglau ‘Diolch’, ‘Gwreiddiau’ a ‘Hawdd’ i ganeuon newydd sbon sy’n ymdrin â chariad, colled a  thorcalon, cyn cloi gyda fersiwn arbennig o ‘Hen Wlad fy Nhadau’. 

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, caiff Aleighcia ei hanrhydeddu gan Orsedd Cymru am ei  chyfraniad nodedig i ddiwylliant Cymru – yn adeiladu pontydd rhwng Cymru a’r Caribî, yn  normaleiddio’r Gymraeg o fewn cerddoriaeth ryngwladol, ac yn ysbrydoli dysgwyr trwy ei  gwaith darlledu a’i chefnogaeth i eraill. 

“Yn wreiddiol, ychydig o senglau oedd y nôd, ond wrth i ni weithio mor dda gyda’n gilydd, roedd  albwm wedi’r greu mewn ychydig o sesiynau – a dwi’n caru e” meddai Aleighcia. 

“Dwi mor falch fod Côsh yn cael gweithio efo Aleighcia i rhyddhau un o albyms mwyaf hafaidd  yr iaith Gymraeg erioed! Does dim posib gwrando ar hon heb wenu a dawnsio” meddai Yws  Gwynedd, rheolwr Recordiau Côsh.  

Dyma Aleighcia yn perfformio gyda Morgan Elwy ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd:

 

Llun: Mefus Photography

Gadael Ymateb