Daf Owain yn cipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Enillydd teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026  yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Daf Owain am ei albwm, ‘Ymarfer Byw’. 

‘Ymarfer Byw’ ydy ail albwm y cerddor o ardal Caernarfon, a ryddhawyd ym mis Hydref 2025. 

Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig ac mae’n ychwanegu’r wobr at deitl ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar a gyflwynwyd i Daf Owain yn Aberystwyth nôl ym mis Chwefror eleni

Cyhoeddwyd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn rhyw wythnos cyn yr Eisteddfod, a bu’r panel o  feirniaid yn brysur iawn yn gwrando ar y cyfoeth o albyms sydd wedi’u rhyddhau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi trafod a thrafod er mwyn dod i ganlyniad. 

Bwriad y wobr, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.

Y beirniaid eleni oedd Lewys Meredydd, Eluned Haf, Alun Cob, Molly Palmer, Huw Bebb a Cadi Glwys. 

Daeth 10 o artistiaid a bandiau i’r rhestr fer eleni, sef Anni Glass, Buddug, Casi, Ciwb, Dafydd Owain, Eve Goodman a SERA, Ffenest, Griff Lynch, Lafant, Mari Mathias a Sonant.

Dyma ‘Gweld Fy Nghant’ o’r albwm:

 

Gadael Ymateb