Elliw Jones oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth gyfansoddi ‘Tlws Sbardun’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd eleni.
Annog cerddorion i ysgrifennu a chyfansoddi caneuon newydd oedd un o ddiddordebau pennaf y cyfansoddwr a’r perfformiwr Alun ‘Sbardun’ Huws.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 2014, fe benderfynodd ei weddw, Gwenno, sefydlu cystadleuaeth am y gân werin wreiddiol orau er mwyn denu cerddorion ifanc i gyfansoddi.
“Roedd Sbardun yn angerddol am ysgrifennu caneuon newydd Cymraeg ac yn annog cerddorion i wneud hynny yn aml” meddai Gwenno.
“Roedd wedi rhoi cymorth i lawer wneud hynny gan eu hysbrydoli i fentro.
“Bwriad Tlws Sbardun yw parhau â’i ddymuniadau, ac rwy’n gobeithio bod y Tlws a’r wobr ariannol yn denu cerddorion ifanc i wneud hynny.”
Brynhawn Mercher yn yr Eisteddfod cyflwynwyd y Tlws a’r wobr ariannol o £500 i Elliw Jones.
Mae Elliw yn arfer canu gyda’r grŵp Tant ond mae hefyd yn perfformio ar ei phen ei hun.
Yn fwyaf adnabyddus fel un o aelodau sefydlol Y Tebot Piws, roedd Alun Sbardun hefyd wedi bod yn aelod o sawl band adnabyddus arall fel Ac Eraill a Mynediadam Ddim.
Yn ogystal â chyfansoddi caneuon i’w perfformio ganddo ef ei hun a’i fandiau, ysgrifennodd ganeuon ar gyfer eraill hefyd, yn eu plith Bryn Fôn, Brigyn, Linda Griffiths a Cowbois Rhos Botwnnog.
Bu’n gweithio i’r BBC ac ITV fel ymchwilydd, sgriptiwr a chynhyrchydd uchel ei barch am flynyddoedd lawer.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth arbennig yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016 ac yr enillydd cyntaf oedd Elidyr Glyn o ardal Caernarfon. Dywedodd ar y pryd fod ennill y gystadleuaeth yn hwb mawr i’w hyder.
Aeth Elidyr Glyn ymlaen i ennill Cân i Gymru yn 2019 gyda ‘Fel Hyn ‘da Ni Fod’, a gyda Bwncath mae wedi rhyddhau tri albwm llwyddianus ers hynny.
Alis Glyn o Gaernarfon oedd enillydd y Tlws y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam gyda’i chân ‘Llinyn Arian’. Yn ddeunaw oed, Alis oedd y ferch gyntaf i ennill y Tlws, ac hefyd yr ieuengaf i’w ennill. Rhyddhawyd y gan fel sengl ym mis Ebrill eleni.
I ddathlu deng mlynedd ers sefydlu’r gystadleuaeth gwahoddwyd pob un o’r enillwyr blaenorol i fod yn bresennol.