Lowri Evans yn rhyddhau ei sengl newydd

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei sengl gyntaf o’r flwyddyn – mae ‘Ma rhywbeth yn mynd i ddigwydd’ allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Mawrth.

Delia’r sengl â digwyddiadau dwys sy’n rhy adnabyddus i’r byd cyfoes: terfysgaeth, ymosodiadau ar fenywod, plant yn dod ag arfau i’r ysgol. A ydyn ni yn mynd i gau ein llygaid ac anwybyddu popeth neu ydyn ni yn ddigon dewr i wneud rhywbeth?

Mae’n trafod pa mor fregus yw bywyd a bod cyrraedd adref ar ddiwedd dydd yn rhywbeth i’w werthfawrogi a pheidio cymryd yn ganiataol.