Mae’r aml-offerynnwyr hudolus, dewin-bopaidd o Fryniau Preseli, Dewin, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf.
Mae eu record hir newydd wedi’i ysbrydoli gan yr argyfwng hinsawdd, cariad ifanc, ac atgofion plentyndod o dyfu i fyny mewn caeau gwyrdd o dan goed derw.
Gan frolio’r senglau gwych ‘Syched Cas’ a ‘Gad Hi Fynd’, a ryddhawyd yn 2025, mae ‘Dan y Dderwen’ yn ehangu ar chwaeth gerddorol a geiriau eclectig Jencyn Corp a Lefi Dafydd o Dewin.
Wedi’i ysgrifennu bron fel albwm cysyniadol, mae’n wahoddiad i fyd Dewin.
O’i agoriad offerynnol rhyngalaethol, ‘Praise the Dewin’, yn dechrau gyda sŵn nodweddiadol yr hammond, sy’n arddangos pob aelod o’r band (mae o leiaf 8), mae’r albwm yn sgipio trwy straeon a syniadau, o glodfori gwydnwch y cactws a chân garu o safbwynt broga, i’r gân olaf ‘Ubeyo’, baled y gallai Peter Gabriel fod wedi’i hysgrifennu. Hyn oll ynghyd âg egwyl hysbysebu gan noddwr y band, Dewin Airways.
Rhagolygon heulog
Dechreuodd Dewin eu taith fel dau gerddor gwerinol gyda breuddwyd. Ar ôl cyfarfyddiad ar hap â Nico Dafydd o Fflach Cymunedol mewn twmpath, dechreuon nhw rannu syniadau a fyddai yn y pen draw yn creu sylfeini Dewin.
Gan dynnu Mefin Hughes o Lafant i mewn, y drymwyr Dylan Sanders-Swales a Bryn Richards ynghyd â’r cynhyrchydd Reuben Wilsdon-Amos a chriw cyfan o frodyr a chwiorydd (Anna Dafydd, Teilo a Bronwen Corp), creodd Jencyn Corp a Lefi Dafydd act mor enwog am eu cyfansoddiadau uchelgeisiol â’u cotiau glaw lliwgar.
Ar albwm sy’n cynnwys clarinét, ffliwt, telyn, allweddell, theremin a chorned, cyfansoddi dyfeisgar Corp a Dafydd sy’n dwyn y sioe mewn gwirionedd.
Ar ôl swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru yn eu blwyddyn gyntaf fel band gyda’u set fyw chwareus, mae rhagolygon 2026 Dewin yn heulog.
Gyda slotiau yn Tafwyl ac Other Voices eisoes yn ran o’u hanes, bydd y band yn ymddangos yn Focus Wales ynghyd â llu o ddyddiadau eraill ledled Cymru, cyn iddynt gynnal eu noson unigryw eu hunain yn yr Eisteddfod ym mis Awst, gyda’r gynulleidfa’n cael eu gwahodd i ddod i mewn i’w byd am ychydig oriau o hud arbrofol.
Mae ‘Dan y Dderwen’ allan yn ddigidol y label cymunedol o Aberteifi, Fflach Cymunedol.
Dyma ‘Dewin Airways’: