MOJO yn dathlu 40 

Wrth i’r band ipoblogadd MOJO ddathlu eu pen-blwydd yn 40 oed, maent wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 24 Ebrill. 

‘Hir Oes’ ydy enw’r albwm newydd. 

Mae’r newyddion yn arwyddocaol gan mai dyma ydy albwm stiwdio gyntaf y band ers cyhoeddi’r record hir ‘Ardal’ yn 2006.

Mae’r band wedi bod yn bresenoldeb cyson ar lwyfannau Cymru ac ar y tonfeddi radio ers eu EP cyntaf, ‘Mae’r Neges Yn Glir’, yn 1986, gyda dau o’r aelodau gwreiddiol, Bedwyr Morgan a Peter Elias Jones, dal yn ganolog i’w sain.

Mae ‘Hir Oes’, yn gweld cyfeiriad newydd, gyda thônau gitâr trymach a drymiau grymus, ynghyd â’r melodïau a harmonïau sydd mor nodweddiadol o sain MOJO. 

Mae pob un o’r wyth cân sydd ar yr albwm yn rai bachog ac egnïol, sy’n gweld y band yn trafod themâu o’n gorffennol fel cenedl, sydd dal yn berthnasol yn y byd sydd ohoni. 

Mae’r band eisoes wedi rhyddhau tair sengl o’r albwm fel tameidiau i aros pryd sef ‘Penodau Ein Bywydau Ni’, ‘Y Cariad Sy’n Dal Yn Gryf’ a ‘Nôl Yn Dy Freichia Di’.

Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio Graig Lâs, Llangefni, ac mae wedi ei beiriannu, cymysgu a’i feistroli gan Sion Roberts, gyda Sion a MOJO yn cyd-gynhyrchu.

Mae’r band wedi cyhoeddi ffilm ddogfen fer o’r broses recordio sydd i’w weld ar YouTube:

Gadael Ymateb