Ar ôl ail-ymddangos gyda’r sengl ‘Iselder’ ar ddiwedd mis Chwefror, mae’r band Gwaed wedi rhyddhau eu hail drac newydd o’r flwyddyn.
‘Pwy fydd yma yfory?’ ydy enw’r trac newydd gan y band a ffurfiodd yn wreiddiol 2010au ond sydd wedi penderfynu ail gydio ynddi yn 2026.
Gwaed ydy Osian Rhys Roberts (llais a gitar), Steffan Harri Roberts (bas), Joseph Perkins (gitar) ac Alexander Moller (dryms).
Mae eu cerddoriaeth wedi cael ei ddylanwadu arno gan lot o roc amgen o’r 80au a’r 90au.
“Ma ‘Pwy fydd yma yfory?’ yn gân am ofni dyfodol ansicr, ac am deimlo ar goll mewn byd llawn newyddion a rhagolygon tywyll” eglura Osian.
“Ond ti’n ffeindio rhyw obaith yn ddiniweidrwydd dy blant wrth i chdi swatio nhw yn y gwely a deud ‘Nos da’ wrthyn nhw, a dyna’r unig beth sy’n cadw chdi fynd amball i ddiwrnod.”
‘Pwy fydd yma yfory?’ ydy ail sengl Gwaed yn 2026, ac yn ȏl y band mae llawer mwy i ddilyn ganddynt.