Albwm newydd Gwilym Bowen Rhys

Mae Gwilyn Bowen Rhys wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf. 

‘Detholiad o Hen Faledi III’ ydi chweched albwm y cerddor gwerin gweithgar, ac, fel mae’r enw’n awgrymu, y trydydd yn ei gyfres o hen faledi. 

Mae’n gasgliad amrywiol o hen ganeuon, rhai wedi eu perfformio’n unigol ac eraill yng nghwmni’r acordionydd Owen Williams a’r clarinedydd Katmuss. 

Mae’r albwm yn cychwyn gyda phenillion 400 mlwydd oed sy’n dathlu’r goeden celyn. 

Recordiwyd yr albwm yn Stiwido Sain, Llandwrog gan Aled Wyn Hughes, ac mae’n cael ei ryddhau gan recordiau Erwydd.

Dyma ‘Yr Wylan Gefnddu’ o’r casgliad newydd:

 

Gadael Ymateb