Eädyth yn datgelu cyfnod newydd, arddull newydd

‘Y Gwir’ ydy enw’r sengl newydd gan Eädyth.

Anthem bwerus y sy’n archwilio’r bwlch rhwng pwy ydym ni mewn gwirionedd, a’r fersiynau o’n hunain rydym yn creu ar gyfer y byd ydy’r sengl ddiweddaraf gan yr artist o Ferthyr.

Gan gyfuno dwyster roc amgen a nu-metal gyda neges gryf, mae ‘Y Gwir’ yn agor drws i dirwedd newydd a rhyfedd i’r sîn Gymraeg.

Dan ddylanwad artistiaid roc/metal benywaidd fel Cassyette, Yonaka a Dead Pony, mae Eädyth yn disgrifio ei sain fel “pan fydd Roc Cymraeg yn cwrdd â soul-metal sexy”.

Gan dynnu ysbrydoliaeth o natur swreal amgylcheddau breuddwydiol, mannau liminal, a’r byd digidol sy’n ehangu’n barhaus, mae’r gân yn bodoli rhywle yn y canol: mannau gwag, signalau sydd wedi torri a llif llethol o wybodaeth. 

Mae’r trac yn ein gadael ni’n holi beth sy’n parhau i fod yn ddilys pan rydym wedi’n hamgylchynu gan gyfryngau cymdeithasol, algorithmau a llif diddiwedd o wybodaeth.

Gyda haenau o gitâr trwm, llais crai, dynamig ac emosiynol, a drymiau pwerus, mae’r trac yn creu sain cofiadwy sy’n teimlo fel anthem.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl:

 

Gadael Ymateb