Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Siliwet’ gan Tokomololo + Youngr, ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
Tokomololo ydy prosiect y cynhyrchydd electronig Meilir Tee Evans sydd wedi bod yn weithgar iawn dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.
Ar y trac ‘Siliwet’ mae wedi cyd-weithio gyda’r canwr-gyfansoddwr a chynhyrchydd, Youngr.
Mae’r fideo newydd wedi’i gyfarwyddo gan Jamie Walker, a dyma’r fideo cerddoriaeth cyfoes newydd diweddaraf mewn cyfres o 10 sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.