Mae’r ddeuawd amgen o’r canolbarth, Peiriant, wedi rhyddhad sengl newydd wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm nesaf ddiwedd mis Chwefror.
‘Song in Parts’ ydy enw’r sengl newydd sy’n damaid i aros pryd nes rhyddhau eu halbwm newydd, ‘Plant’, a fydd yn glanio trwy label Recordiau Nawr ar 27 Chwefror.
Peiriant ydy’r ddeuawd arbrofol Rose Linn-Pearl a Dan Linn-Pearl.
Mae Rose Linn-Pearl yn rhannu eu hamser rhwng chwarae’r fiolyn a gweithio fel milfeddyg. Ar ôl hyfforddi’n ifanc mewn cerddoriaeth glasurol a gwerin, mae wedi mynd ati i ymddiddori mewn cerddoriaeth byrfyfyr ac arbrofol.
Mae Dan Linn-Pearl yn gyfansoddwr, ac artist sain ac mae ei waith yn cynnwys cerddoriaeth roc ac electronig, gosodiad seinwedd, a gwaith ffilm arbrofol dan yr enw Deaf Pictures.
‘Plant’ fydd eu trydydd albwm stiwdio ac mae’n ddilyniant i’w halbwm diwethaf, ‘Dychwelyd’, a ryddhawyd yng Ngorffennaf 2024 – albwm oedd yn archwilio’r broses o ddychwelyd i’r tarddiad gyda’r Mynyddoedd Du ym Mannau Brycheiniog sy’n gosod y ffrâm i dirlun Peiriant.
Cafodd ‘Dychwelyd’ ei enwi’n albwm y mis gan The Guardian, yn ogystal ȃ chael ei gynnwys ar eu rhestr 10 uchaf o recordiau gwerin yn 2024.
Mae cerddoriaeth y band yn ddwy-ieithog, ond mae teitl yr albwm newydd, ‘Plant’, yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr Cymraeg, ac mae’n archwilio’r tensiwn a phryderon rydym yn eu wynebu am y dyfodol yn ogystal â’r llawenydd o fyw am y foment.
Mae’r albwm yn ehangu sain y ddeuawd dros yr wyth trac offerynnol. Er mai caneuon offerynnol sydd yma, maent yn llwyddo i gyfathrebu’n llwyddiannus y cyswllt gyda’r iaith Gymraeg trwy gyfrwng y ddeialog rhwng y fiolin a’r gitâr.
Cynhyrchwyd ‘Plant’ gan Sam Grant yn Black Studios, Newcastle upon Tyne ac mae’r gwaith celf yn cynnwys y paentiad ‘Violette meets the world’ gan Amber Hiscott.
Gigs Peiriant:
5 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
6 Mawrth – Elysium, Abertawe
7 Mawrth – Haver Hub, Hwlffordd
10 Mawrth – Bank Vault, Aberystwyth
15 Mawrth – Parish Hall, Y Gelli Gandryll