Mae Mared wedi datgelu y bydd yn rhyddhau ei record gyntaf ar ffurf feinyl.
Mae’r record yn cyfuno ei EP nesaf, ‘Everything I Left Behind’, ynghyd a’r EP a recordiodd llynedd gyda band byw diolch i brosiect Gorwelion.
Bydd ‘Everything I Left Behind’ yn cael ei ryddhau ar 27 Mawrth ac mae modd rhag-archebu’r record feinyl nawr ar safle Bandcamp Mared.