Cyhoeddi fideo Pen Dub a Tom Macaulay

Mae fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddar ‘Yr Unig Un’ gan Pen Dub a Tom Macaulay, wedi’i gyhoeddi ar YouTube.

Rhyddhawyd y fersiwn ar y cyd o ‘Yr Unig Un’ ym mis Tachwedd – dyma oedd ail gan Gymraeg y canwr-gyfansoddwr Tom Macaulay, sy’n wreiddiol o Ben Llŷn ond sydd wedi ei sefydlu bellach yn Ynys Môn.

Fe’i rhyddhawyd yn wreiddiol yn 2022 ond penderfynodd Tom i gyd-weithio gyda’i gyfaill, y cynhyrchydd Pen Dub, i ryddhau fersiwn reggae o’r trac.

Dyma’r fideo: