Albwm newydd Sage Todz

Mae’r rapiwr dwy-ieithog o’r gogledd, Sage Todz, wedi rhyddhau ei albwm newydd.

‘Not Upstet, Just Motivated: The Mixtape’ ydy enw’r casgliad newydd ganddo sydd allan ers 20 Medi. 

“Mae Not Upstet Just Motivated’ yn mantra i’r rhai hynny sy’n wydn, y rhai sy’n gallu troi poen a chaledwch yn gyfle a’r rhai sy’n cael eu gyrru gan rwystrau dyddiol bywyd” meddai Sage. 

“Mae yna amser a lle i fod yn ddig, ac dydw i ddim yn y parth amser na’r lle hwnnw ar hyn o bryd. Os wyt ti o dan y don ar y funud, gad i hwn fod yn ysgwydd i ti bwyso arni wrth i ti godi dy hun yn ôl i fyny, ac os wyt ti ar ben dy ddigon, dal ati i wthio!”

Mae ‘Not Upstet Just Motivated’  yn pontio cefndir a threftadaeth amlddiwylliannol Sage.

Mae’r cynhyrchiad, y patrymau drymio, a’r samplu yn defnyddio offeryniaeth a rhythmau Gorllewin Affrica yn drwm, a phan fydd hyn yn cyfuno â dawn gyfoes y DU, mae’r canlyniad terfynol yn rhywbeth newydd ac eithriadol o unigryw.

Mae caneuon fel ‘Gwaith Cyflym’ yn enghraifft berffaith o gyfuniad Afro-Alte yn yr iaith Gymraeg, sy’n cynrychioli tir hollol newydd i Gymru, ond hefyd i fiwsig ar y cyfan.

Dyma’r trac Cymraeg o’r albwm, ‘Gwaith Cyflym’:

Gadael Ymateb