Taith hydref HMS Morris

Mae HMS Morris wedi cyhoeddi manylion taith hyrwyddo eu halbwm newydd ‘SACI HICS’. 

Wrth ryddhau eu sengl ‘Glue’ ddechrau mis Awst, cyhoeddodd y band bod eu halbwm nesaf yn glanio ddiwedd mis Hydref ar label Bubblewrap Collective. 

Bellach maent wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs fydd yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref a Tachwedd. 

Bydd y daith yn dechrau ar ȏl ymweliad ȃ Sbaen a Chatalwnia, gyda gigs ar 15 a 16 Hydref yn Casrellon a Vic. 

Yna, ar 23 Hydref bydd HMS Morris yn ymweld ȃ Bangor i berfformio yng Ngŵyl Bang. 

Bydd yr albwm newydd yn glanio ar 30 Hydref, ac yna bydd y band yn perfformio mewn cyfres o gigs sy’n ngŵyl Simple Things Festival ym Mryste ar 7 Tachwedd. 

Y dyddiad nesaf i’r calendr fydd 13 Tachwedd wrth i’r band deithio i Mono yn Glasgow ar gyfer Pop Mutations Festival, cyn symud i Gaeredin y noson ganlynol a gig yng Nghlwb Criced Leith FAB. 

Yna, bydd gig yn The Nest, Rhydychen ar 19 Tachwedd cyn dychwelyd i Gymru y noson ganlynol, ac i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. 

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y mwyafrif o’r gigs nawr, ar wahan i’r rhai ym Mryste a Chaeredin fydd ar werth ddechrau mis Hydref. 

Mae hefyd modd rhag-archebu’r albwm ‘SACI HACS’ ar wefan Bubblewrap Collective. 

Dyma’r sengl ‘Glue’ o’r albwm:

Gadael Ymateb