Albwm Popeth yn glanio

Mae Popeth wedi rhyddhau albwm cyntaf  – ‘Disglair’ ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh

Popeth ydy prosiect Ynyr Roberts, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Brigyn ac Epitaph.

Gan ddathlu’r haf gyda chasgliad o anthemau dawns egnïol a chofiadwy, mae’r albwm hwn o gerddoriaeth pop fachog yn nodedig am lawer o resymau yn ôl Côsh. 

Yn gyntaf oll, mae’r record wedi’i gynhyrchu gyda chydweithio wrth wraidd pob cân.

Mae’r albwm hefyd yn chwarae’n ddi-dor o drac i drac i efelychu set DJ. O ‘Acrobat’ i ‘Zodiacs’  dyma’r canllaw, megis a-z, hanfodol o gerddoriaeth pop i’ch swyno drwy’r haf yn ôl y label. 

Mewn byd sy’n gynyddol ynysig, mae cydweithio ar ganeuon a chyflwyno albwm eclectig o syniadau o fewn y genre cerddoriaeth EDM, wedi cael canlyniad gwych profedig.

Er fod EDM yn genre byd-eang, yn annisgwyl does dim llawer o bobl wedi/yn creu caneuon tebyg yn yr iaith Gymraeg. Mae Ynyr, drwy Popeth, wedi dod o hyd i rywbeth eitha niche.

Gan ddod â lleisiau gwahanol a gwych i dorri’r distawrwydd a chreu rhywbeth newydd a chyffrous – mae mwy na hanner y ‘collabs‘ ar yr albwm hefyd wedi rhoi llwyfan i artistiaid newydd/artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Rhai nad oeddent erioed wedi recordio cân o’r blaen – eraill yn canu yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf. 

Trwy uno egni creadigol, mae’r cydweithio wedi trawsnewid syniadau syml yn weithiau cyflawn a rhannu cysylltiad gwirioneddol drwy gân.

Enghreifftiau da o hyn oedd y cydweithio gyda Local Rainbow, Bendigaydfran a Liam J. Edwards – mae pob artist wedi symud ymlaen ymhellach ar eu taith artistig ers cydweithio â Popeth.

Arddull House sydd i fwyafrif o’r caneuon ar yr albwm – cerddoriaeth ddawns bositif â chydweithio wrth wraidd pob cân i wneud casgliad o ganeuon sy’n llifo o un i’r llall i wrando wrth gael parti, neu baratoi am barti, wrth ymarfer corff, neu i’w fwynhau mewn unrhyw fodd.

Dyma fersiwn Popeth o gân Steve Eaves, ‘Gad Iddi Fynd’, sy’n cynnwys Hanna Seirian fel gwestai:

 

Gadael Ymateb