Mae canwr-gyfansoddwr sy’n dod yn wreiddiol o’r Rhyl, ond bellach wedi ymsefydlu ym Môn wedi rhyddhau ei EP newydd.
Gareth John ydy enw’r artist ac mae’n disgrifio ei hun fel canwr, cyfansoddwr caneuon, aml-offerynnwr, peiriannydd a chynhyrchydd.
‘Ein Hunain Mwyaf Mewnol’ ydy enw’r EP ganddo sydd allan ers dydd Gwener 19 Mehefin gyda gig lansio yn y Fic, Betheseda i nodi’r achlysur.
Efallai y bydd Gareth yn enw newydd i sawl un ond mae ganddo lawer iawn o brofiad fel cerddor.
“Yn wreiddiol o Yr Rhyl ac ar ol siwrne o le i le o gwmpas y byd, dwi rŵan yn byw yn Beaumaris efo fy nheulu bach” eglura Gareth.
“Dwi’n ysgrifennu a pherfformio deunydd gwreiddiol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y genre Americanaidd, Roc, Pop, Gwlad a Gwerin. Dwi wedi bod yn ysgrifennu a pherfformio ers canol y 90au, gan deithio’r Unol Daleithiau ac Ewrop ochr yn ochr â chytundebau dosbarthu gyda Virgin ac Universal Records yn y 00au a’r 10au.”
Mae ‘Ein Hunain Mwyaf Mewnol’ yn cynnwys 5 o draciau ac mae’r prosiect yn archwilio themâu ein taith bywyd a rhai o’r brwydrau mewnol y gallwn eu hwynebu ac yn cyfuno dylanwadau o’r 60au a’r 90au.
Siwrne adferiad
“Ysgrifennwyd y caneuon dros y 2 flynedd ddiwethaf trwy fy siwrne adferiad a’u recordio yn Pendyffryn Studios, Beaumaris” meddai Gareth.
Dywed y cerddor mai’r traciau sy’n sefyll allan ar y casgliad yw ‘Breuddwyd Araf’ a ‘Gweithredoedd’, sy’n canolbwyntio ar cymryd bywyd un diwrnod ar y tro a byw gydag uniondeb, yn y drefn honno.
“At ei gilydd, mae’r EP yn adlewyrchu fy system dywydd fewnol yn llywio tuag at fywyd gwell i mi a’r rhai o’m cwmpas, a gobeithiwn y bydd gwrandawyr yn cysylltu â’i neges o ffydd yn y broses.”
Mae’r EP ar gael ar y llwyfannau digidol arferol ac fe fydd fideos cerddoriaeth ar gyfer pob trac ar gael ar Youtube.
Dim ond yn dechrau ydy hyn, oherwydd yn ol Gareth, bydd EP arall ganddo’n cael ei ryddhau ym mis Ionawr 2027.
Dyma’r fideo ar gyfer y trac ‘Gweithredoedd’