Mae’r triawd poblogaidd o Fôn, Cordia, wedi cyhoeddi eu bod wedi ymuno â label Côsh, ac y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl gyntaf ar y label ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae Cordia yn camu ymlaen gyda ‘Gweld yn Glir’, a fydd allan ar 24 Gorffennaf.
Dyma sengl sy’n agor pennod newydd i’r triawd o Ynys Môn wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer haf anferth o gigs ar brif lwyfannau Cymru.
“Da ni’n gyffrous iawn i ymuno efo Recordiau Côsh wrth i ni gamu mewn i bennod newydd fel band a rhyddhau cerddoriaeth newydd i Gymru” meddent.
“’Gweld Yn Glir’ yw enw’r sengl gyntaf i ni ryddhau ar y label a ‘da ni’n edrych ymlaen i bawb ei chlywed.
“Fel tair merch o Ynys Môn sydd wedi breuddwydio i gael camu ar lwyfannau ledled y wlad ers yn ifanc iawn, mae wir yn freuddwyd cael ymuno gyda label Côsh a chynrychioli merched sy’n gneud miwsig yng Nghymru.
“Da ni’n hynod werthfawrogol o’r gefnogaeth da ni wedi dderbyn hyd yma ac yn edrych ymlaen at ddyfodol Cordia.”
Mae’r sengl yn cyrraedd wrth i Cordia baratoi ar gyfer haf prysur, gyda slotiau yn Tafwyl, Noson Lawen, Sesiwn Fawr Dolgellau, Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod, Maes B, Y Cowt yn Sioe Môn, a’r Bull Inn yn Llannerchymedd.
Gyda’r momentwm yn tyfu’n gyflym, mae ‘Gweld yn Glir’ yn gam naturiol i fand sy’n dod yn un o brif leisiau newydd Cymru.
Dyma’r trac gwych gan Cordia, ‘Sylw’, sydd ar albwm feinyl Selar3: