Mae label Sain wedi cyhoeddi bod holl albyms a ryddhawyd ganddynt yn y 1990au bellach ar gael ar y llwyfannau digidol.
Eisoes rhyddhawyd holl albyms Sain y 1970au a’r 1980au yn ddigidol gan label, ac erbyn hyn, mae holl albyms y label o gyfnod y 1990au ar gael i ffrydio a lawrlwytho.
Dyma ddegawd arall o amrywiaeth cerddorol gan brif label recordio’r cyfnod yng Nghymru. Mae tipyn o bopeth i bawb ymhlith cynnyrch y 90au, o gantorion-gyfansoddwyr i gorau, i bop a roc, jazz, gwerin a chlasurol.
Dyma’r ddegawd lle gwelwyd cerddorion amlwg fel Meic Stevens, Dafydd Iwan, Geraint Lovgreen, Geraint Jarman, Caryl Parry Jones a Doreen Lewis yn rhyddhau rhagor o ddeunydd.
Gan Meic Stevens cafwyd albwm byw, ‘Yn Fyw o Swroco’, recordiwyd yn y Babell Roc yn Eisteddfod Llandeilo yn 1996, a gan Dafydd Iwan cafwyd albwm yn llawn o ganeuon gwerin. ‘Eiliad’ oedd albwm unigol cyntaf Caryl Parry Jones a gwelwyd cantorion amlwg fel Dafydd Dafis a Linda Griffiths (Healy) yn rhyddhau caneuon newydd, a Geraint Jarman yn rhyddhau caneuon coll ar ei albwm ‘Eilydd na Ddefnyddiwyd’.
Roedd y 1990au yn gyfnod newydd o ran cerddoriaeth werin yng Nghymru a’r albwm aml-gyfrannog ‘Canu Gwerin Newydd’ yn arddangos y don newydd, gyffrous o artistiaid Cymreig yn y maes hwn. Rhyddhawyd chweched albwm Ar Log a sawl albwm gwerin amlwg arall gan artistiaid fel Crasdant, Gwerinos, Carreg Lafar, Calennig, Pigyn Clust a Plethyn. Yn ystod y ddegawd hefyd rhyddhawyd pedwar albwm gan y gantores werin o Faldwyn, Siân James.
Sobin a’r Smaeliaid oedd un o brif grwpiau Cymru ar y pryd ac wedi rhyddhau’r albwm ‘Caib’ yn 1990, cafwyd alwym byw, ‘Sobin yn Dod Adra’ yn 1991 ac yna ‘A Rhaw’ yn 1992. Rhyddhawyd unig albym Iwcs a Doyle yn 1996 ac mae sawl clasur i’w cael ar albyms aml-gyfrannog Cân i Gymru o’r cyfnod. Grŵp amlwg a phoblogaidd arall oedd Mojo, gyda’u caneuon bachog, cofiadwy i’w clywed ar ddau albwm yn ystod y ddegawd. Erbyn 1997 roedd y triawd benywaidd, Eden, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Paid â bod ofn’.
Dyma gyfle i ail-ddarganfod neu i ddarganfod o’r newydd gerddoriaeth o gyfnod sydd bellach yn dyddio ’nôl chwarter canrif a mwy – cyfnod sydd yn llawn perlau o bob math.
Mae prosiect digido archif Sain yn cael ei gefnogi gan Gronfa Her ARFOR sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.