Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei drydedd sengl o blith casgliad newydd o ganeuon.
Mae ‘Rhythm yn y Glaw’ yn gân arbennig i goffáu y diweddar Charli Britton, drymiwr Edward H Dafis a ffrind mynwesol i Cleif a gweddill y band chwedlonol.
Brodor o Gaerdydd oedd Charles (Charli), yn “Kerdiff born, Kerdiff bred”, er mai yn ardal Caernarfon y treuliodd y rhan helaethaf o’i fywyd.
“Bu’n gyd-ddisgybl gyda mi yn Ysgol Rhydfelen, ac ar lwyfan eisteddfod yr ysgol y gwelwyd Charli’n drymio am y tro cyntaf, a hynny ar snêr a farchnatwyd dan enw Ringo Starr” meddai Cleif.
“Roedd yn gymeriad direidus a hoffus ac yn un a ystyriais, fel Dewi, John a Hefin, yn fwy na ffrind ond yn frawd.
“Bûm ar fy nhraed un noson stormus, ac yng nghur y glaw daeth atgof amdano – ‘sŵn dy guro dros f’ysgwydd yn y dyddie roc a rôl’.”
Fel y ddwy sengl flaenorol, recordiwyd ‘Rhythm yn y Glaw’ yn StiwdioOwz yn Sir Benfro ac mae allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol.