Ar ôl llwyddiant eu tair sengl y llynedd, mae Shamoniks ac Eädyth yn cyflwyno trac newydd sbon sydd wedi’i ddylanwadu gan UK garage.
Mae ‘SUPERNOVA’ yn seiliedig ar yr ymwelydd interstellar diweddar, 3I/Atlas, gan gyfuno themâu cosmol gyda synau electroneg pwerus.
Mae’r trac yn dangos gallu eithriadol Eädyth a Shamoniks i wthio ffiniau cerddoriaeth electroneg o Gymru, gan greu sŵn newydd gyda blas o’r 90au.
Mae’r sengl ar yr holl lwyfannau digidol arferol ar Recordiau UDISHIDO.