Band Pres Llareggub x Aleighcia Scott

Mae Band Pres Llareggub wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ac unwaith eto maent wedi mynd ati i gyd-weithio gydag artist amlwg wrth wneud hynny.

Y gantores Reggae o Gaerdydd, Aleighcia Scott, ydy partner cerddorol diweddaraf y band ar eu sengl ‘Ti Neud Fi Symud’, a dyma’r tro cyntaf iddynt gyd-weithio. 

Dyma ydy deunydd cyntaf y band eleni, ac mae’n ddilyniant i’w sengl ddiwethaf, ‘TRW NOS’, a ryddhawyd llynedd gyda’r artist Tara Bandito.

Cynhyrchwyd y sengl newydd llynedd wedi i Aleighcia holi Owain, arweinydd y band, os fyddai modd iddyn nhw wneud colab! 

Mae’r gân yn dangos hyblygrwydd a dawn Aleighcia gyda’r trac yn ymadawiad o’i sain Reggae arferol gyda thrac newydd yn dangos elfennau o disco a ffync.

Mae’r flwyddyn hon yn un tu hwnt o brysur i Aleighcia a hithau’n un o feirniaid ar gyfres deledu boblogaidd S4C – Y Llais. Mae hefyd wedi treulio amser yn Jamaica gyda gwaith elusennol ac yn paratoi i ryddhau ei halbwm iaith Gymraeg gyntaf eleni hefyd!

Bu i fand pres Llareggub deithio i Ganada llynedd a pherfformio yn y North American Festival of Wales yn Ottawa. 

Mae’r haf yn edrych yn un prysur gyda’r band yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli am y tro cyntaf. 

Byddant hefyd yn cyd-weithio gyda’r rapiwr talentog Sage Todz ar lwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gan hefyd yn agor i  Jools Holland fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Portmeirion fis Awst.

 

Gadael Ymateb