Mae’r cerddor hynod gynhyrchiol o Birmingham, Ffos Goch, wedi rhyddhau ei sengl cydweithredol diweddaraf.
‘Rhyddhau’r Cathod’ ydy enw’r sengl newydd sy’n ei weld yn cyd-weithio gydag Osian Grifford a Ciara Killick. Ysgrifenwyd y geiriau gan y darlunydd a pherfformiwr Osian, sydd hefyd yn canu’r geiriau hynny gyda Ciara.
Mae dwy haen i’r trac yn ôl Stuart Estell, sef Ffos Goch – mae’r gerddoriaeth electronig, sy’n dilyn proses adiol Philip Glass, yn creu llinyn esblygiadol a lle i’r haen leisiol hofran uwch ei phen.
“Cwrddais i ag Osian a Ciara yn ystod y penwythnos Dathlu Datblygu yn Llambed yn 2022” eglura Stuart am y berthynas. “Rhoddais ryddid llwyr iddyn nhw wneud beth bynnag o’n nhw eisiau – felly mae’r cyfansoddiad yn un aleatorig go iawn.”