Mae’r ddeuawd gwerin, sydd hefyd yn ddwy chwaer o Sir Drefaldwyn, Elin a Carys wedi rhyddhau eu EP cyntaf.
‘Hela’r Dryw’ ydy enw’r record fer sydd allan ers dydd Gwener 24 Ebrill ac sy’n cynnwys trefniannau newydd ac amgen o hen ganeuon gwerin traddodiadol a cherddoriaeth wreiddiol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf daeth Elin a Carys yn enw newydd a chyffrous ar y sîn werin yng Nghymru.
Wedi ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam llynedd a recordio trac ar yr albwm aml-gyfrannog ‘Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin’ daeth rhagor o gyfleoedd i berfformio’n fyw, gan gynnwys mewn gwyliau megis Green Man a Tân ar y Mynydd ac i gefnogi artistiaid fel Gwilym Bowen Rhys, Al Lewis a Vri.
Gyda’u cymysgedd o drefniannau unigryw o rai o’n hen ganeuon gwerin a cherddoriaeth werin wreiddiol mae’r ddwy yn torri cwys newydd gan gyfrannu sain ddiddorol ac apelgar i’r sîn werin yng Nghymru.
Wedi eu magu ar aelwyd gerddorol ger Meifod yn Sir Drefaldwyn, eu tad yn aelod o’r grŵp gwerin Plethyn a’u mam hefyd yn ddylanwad cerddorol, mae gan y ddwy atgofion braf am ganu mewn harmoni gyda’u rhieni yn y car a’r gegin pan oeddent yn blant.
Er i Carys astudio cerddoriaeth glasurol, gan arbenigo ar y ffliwt, ac i Elin astudio celfyddyd gain, daeth y ddwy yn ôl at eu cariad cyntaf, sef cerddoriaeth werin Cymru. Mae’r ddwy yn chwarae sawl offeryn, gan gynnwys y banjo, y gitâr, y ffliwt a’r acordion a seiniau amrywiol yr offerynnau yn plethu’n naturiol gyda’u lleisiau. Mae’r geiriau a’r straeon yn y caneuon yn bwysig i’r ddwy a’u cerddoriaeth wreiddiol wedi ei wreiddio’n ddwfn yn eu milltir sgwâr ym Maldwyn, gyda byd natur a’r dirwedd o’u cwmpas yn ysbrydoliaeth gyson.
Teimlo fel dod adref
Mae’r EP yn cynnwys caneuon ac alawon sy’n rhan o’u set byw ers rhai misoedd ac yn cynnwys caneuon sydd wedi eu cysylltu’n gryf gyda hen arferion gwerin lleol, fel y trac cyntaf, ‘Hela’r Dryw’, cân sy’n perthyn i’r arferiad Celtaidd hynafol o hela’r dryw bach yng nghyfnod y Calan a mynd o gwmpas y tai a’r tafarndai lleol gan ddymuno lwc dda i’r gymdogaeth yn gyfnewid am dâl, bwyd a diod.
Mae ‘Y Gog Lwydlas’ yn un o nifer yn y traddodiad Cymreig sy’n llawenhau yn nyfodiad y gog gyda’r gwanwyn gyda chyffyrddiadau offerynnol hudolus yn cysylltu’r penillion tra bod ‘Cariad Cyntaf’ yn gri o’r galon gyda seiniau arbrofol ar y bîb a’r gitâr yn rhoi gwedd newydd ar yr hen glasur o blith ein caneuon serch traddodiadol.
Cynrychioli’r elfen fyrfyfyr o berfformiadau Elin a Carys wna trac olaf yr EP, ‘Dod Nôl at fy Nghoed’. Daeth yr alaw pan oedd y ddwy yn y gegin un diwrnod wedi ymgolli yn y gerddoriaeth a’r olygfa drwy’r ffenestr yn rhoi’r awen. Ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fyw dibynna’r ddwy yn llwyr ar ei gilydd, gyda’r naill yn ymddiried yn y llall gan ddilyn y naws a’r ddeinameg.
“Mae’r holl broses o beth ydan ni’n ei wneud fel Elin a Carys yn teimlo fel dod adref” medde’r ddeuawd.
“Mae chwarae cerddoriaeth werin Gymreig gyda’n gilydd yn teimlo fel ein bod ni wedi darganfod rhywbeth yr oedden ni wastad i fod i ddod nôl ato…”
Gyda chwmni Freddie Willetts ar y bas dwbl, bodhran, gitâr drydan a phîb, Awen Blandford ar y cello, Gwilym Bowen Rhys ar y ffidil a’r feiola ac Aled Wyn Hughes yn cynhyrchu, ac wedi ei recordio yn Stiwdio Sain, dyma EP fydd yn gyfraniad newydd a mentrus i’r sin werin yng Nghymru, EP sy’n disgleirio o seiniau ifanc ac unigryw gan gyfleu teimlad a naws mor gartrefol ar yr un pryd.
Mae fideo ‘Hela’r Dryw’, sydd wedi’i gynhyrchu gan James Dougan & Elin Gittins, eisoes allan ers yn gynharach yn y mis.
Dyma’r fideo: