Yn fuan ar ôl rhyddhau ei sengl cyntaf yn Gymraeg ers dros 10 mlynedd, mae Bethzienna yn dychwelyd gyda mwy o gerddoriaeth, y tro yma gyda sengl jazz blues am dor calon.
‘Se Ti’n Fy Ngharu’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi sydd allan ers 14 Awst ar Côsh.
Wedi ei ysgrifennu ar y cyd gyda Tim Laws – sydd hefyd wedi gweithio gyda Stevie Wonder, Gabrielle, Will Young a Lighthouse Family.
“Mae’r gân am sylweddoli bod chi mewn sefyllfa neu berthynas sydd ddim yn dda i chi, ac ei bod hi’n well cerdded i ffwrdd na cholli eich hun” meddai Bethzienna.
Wedi ymddangos ar Wawffactor S4C ynhyd ag Aimee Duffy a Lisa Pedrick, aeth Bethzienna ymlaen i ddilyn gyrfa fel artist, ac yn 2019 daeth yn rhan o Tîm Tom Jones ar The Voice UK, gan gyrraedd y rowndiau terfynnol.
Gyda’r sylw newydd, dychwelodd i ryddhau cerddoriaeth, ac yn ddiweddar ymunodd a Recordiau Côsh i ryddhau ei chynnyrch Cymraeg cyntaf ers dros ddegawd.
Mae’r sengl newydd yn dod yn dynn ar sodlau’r sengl ddwbl ‘Creep / Dacw ‘Nghariad’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf.
Yn actores dalentog hefyd, mae Bethzienna wedi ymddangs yn y gyfres boblogaidd Skins (Channel 4) yn chwara cymeriad Hamutal, rhan Di yn Our Girl (BBC) cymeriad Kelly yn Cara Fi a Natalie yn Gwaith Cartref (S4C). Yn ddiweddar iawn cafodd ran yng nghyfres Casualty y BBC, yn chwarae’r cymeriad dadleuol Emilia Gold, dros dair pennod.
Bydd mwy o gerddoriaeth i ddod yn fuan gan Bethzienna, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddeunydd newydd gydag Yws Gwynedd a Rich James Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.