Sachasky nôl gyda hip hop tanddaearol efo egni 

Mae’r bartneriaeth amgen, Sachasky, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 14 Awst. 

‘Bore Da’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect Izak Zjalič aa Hedydd Ioan ac mae allan ar label INOIS. 

Daw’r trac diweddaraf ar ôl i Sachasky ryddhau eu hail sengl ar 10 Gorffennaf, ddwy flynedd ar ôl i’r gyntaf ddod allan. Yn ffodus, doedd dim rhaid aros mor hir nes y cynnig diweddaraf ganddynt, ac maent hefyd wedi datgelu y bydd sengl arall yn cael ei rhyddhau ym mis Medi gan adeiladu ar y momentwm eleni. 

Yn hytrach nag adeiladu prosiect, gyda’r ddau yn brysur yn gigo gyda’r band Tai Haf Heb Drigolyn, mae’r senglau eleni gan Sachasky wedi eu ffocysu ar ryddid, bod yn chwareus a chreadigrwydd. 

Fe ryddhawyd eu sengl ddiwethaf ‘Creulon’ i gyd-fynd a pherfformiad a gosodiad arbennig yn rhan o arddangosfa Castell 04 yng Nghastell Caernarfon. Wrth symud i ffwrdd o’r syniad o greu gwaith cerddorol traddodiadol fe weithiodd y ddau efo’i gilydd i greu perfformiad hanner awr oedd yn cael ei rannu o flaen cynulleidfa o 400 yn y castell, ac yna’n cael ei ailadrodd ar ffurf gosodiad sain yn y gofod dros y penwythnos gan ddirywio bob tro roeddent yn ail gychwyn. 

Mae’r perfformiad a’r gwaith yma’n cynnig syniad o’r hyn sydd i ddod, wrth i’r ddau edrych am gyfleoedd i fynd a chreadigrwydd a phrosiectau ar draws gofodau a chreu darnau unigol yn hytrach na set arferol wrth gigio.

Mae’r sengl newydd ‘Bore Da’ yn dod o’r un man cychwyn a ‘Creulon’ wrth i’r trac eistedd ar hard drives y ddau dros y dwy flynedd ddiwethaf. Wedi ei ysgogi i rannu a rhyddhau’r traciau, mae ‘Bore Da’ yn flas o sŵn gwreiddiol y ddau gan gyfuno hip hop tanddaearol gydag egni, samples a geiriau cywrain. 

Mae’r ddau drac rydym wedi clywed eleni yn dangos diddordeb y ddau mewn edrych ar draws genres ac edrych am y gwaith gorau, yn hytrach nag adeiladu rhywbeth traddodiadol.

Fe gafodd Sachasky ei eni fel deuawd hip hop sydd wedyn wedi trawsffurfio i berthynas a chydweithio ar draws prosiectau, albyms a disgyblaethau ond mae’r ddau o’r diwedd yn dod yn ôl i rannu eu caneuon cynnar. Mae’r traciau diweddaraf yn gyfle i eraill gael mewnwelediad i’r broses yma fel mae Hedydd Ioan, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw skylrk., yn esbonio…

Mae SACHASKY bron yn ddyddiadur o perthynas fi ac Izak, mae’n teimlo fel bod ni’n agor demos ni a’i rannu efo pawb” meddai Hedydd.  

“Rhwng perfformio fel skylrk., Sachasom ac ŵan efo Tai Haf da ni’n cael gymaint o gyfleoedd i berffeithio petha, mae’r tracs yma yn gadael bob dim i fynd a jyst creu yn union be da ni isio.

Bydd y sengl nesaf allan ar 25 Medi a bydd cyfle i weld Izak Zjalič a Hedydd Ioan hefyd yn perfformio fel rhan o Tai Haf Heb Drigolyn yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ar y 20 Awst.

 

Gadael Ymateb