Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Tudalen Wag’ gan Kizzy Crawford ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo a golygu gan Lleucu Jenkins.
Dyma’r chweched fideo cerddoriaeth cyfoes newydd mewn cyfres o 10 sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.
Mae Kizzy hefyd wedi rhyddhau ei EP newydd, ‘Prism’, ers dydd Sul 16 Awst ac mae ‘Tudalen Wag’ yn un o’r traciau sy’n ymddangos ar y record fer.