Blodau Papur yn dangos ochr dyner gyda’i sengl newydd

Mae’r ‘siwpyr grŵp’, Blodau Papur, wedi dychwelyd gyda sengl newydd sy’n dangos ochr dyner y band. 

Yn codi eu capiau i faledi mawr plentyndod yn y 1990au, mae ‘Fuo Chi?’ yn ddathliad o gariad a’r llinynnau tynn sydd rhwng pobl.

Yn wahanol i’r gyriant a geir yn ‘Dŵr’, eu sengl ddiwethaf a arhosodd ar A-list BBC Radio Wales am bythefnos yn olynol, mae ‘Fuo Chi?’ yn dangos ochr dynerach y band, ond gyda mwy o angerdd nag erioed o’r blaen yn llais pwerus Alys Williams.

Unwaith eto, mae geiriau Branwen Williams, sydd hefyd yn chwarae’r allweddellau ac yn llais cefndirol, yn tyrchu’n ddwfn i brofiadau chwerw felys troi’n oedolyn a gwneud penderfyniadau. 

O dan y chwyddwydr y tro hwn mae ei nain a’i thaid, a sut mae’r genhedlaeth honno’n llawer mwy parod i weithio ar rywbeth a’i drwsio, heb ei daflu’n ddifeddwl – boed hynny’n llythrennol neu rhwng dau.

Crëwyd clawr trawiadol y sengl gan Cat Williams, merch Alys ac mae’r cysodi gan Dafydd Owain. Yn ymuno gyda Blodau Papur ar y sacsoffon mae Dafydd Glyn Williams.

 

Gadael Ymateb