Rhyddhau chweched albwm Mered Morris

Mae’r cerddor profiadol, Mered Morris, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 22 Mai.

‘Y Paith a Llefydd Eraill’ ydy enw’r record hir unigol newydd gan y cerddor sydd wedi bod yn aelod o sawl band cyfarwydd dros y blynyddoedd.

Dyma chweched albwm unigol y gitarydd a’r canwr-gyfansoddwr o Fangor sydd wedi ymgartrefu ar Ynys Môn.

Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r profiad o dreulio mis yn gigio ym Mhatagonia wrth wraidd y casgliad, gyda 5 o’r 10 cân wedi deillio o daith Mered yno efo Bryn Fôn, Rhys Meirion a Menna Rhys, ddiwedd 2024.

Mae’r caneuon rheini yn cynnwys y ddwy sengl, ‘Lawr Yn La Boca’, cân am ardal liwgar o Buenos Aires, a ‘Gaiman i Esquel’, cân am y daith hir ar draws y paith o Ddyffryn Camwy i odre’r Andes.

Mae ’Touring Club Hotel’, yn sôn am arhosiad Butch Cassidy a’r Sundance Kid yn Nhrelew, ac ‘Y Cyntaf Un’, yn deyrnged i Mary Humphries, y cyntaf anedig o ‘blant y paith’. ‘Traethau Madryn’ yw’r ola o ganeuon Patagonia, baled deimladawy, sy’n arddangos dawn arbennig yr offerynnwr prês, Bari Gwilliam. Hanes y dyddiau cynnar, caled, wedi glaniad y ‘Mimosa’ yn 1865.

Mae’r gweddill o’r caneuon yn sôn am bethau sy’n digwydd yn agosach i adre. Talp o roc egnïol ydy ‘Gwynt Teg’, sy’n rhybuddio am y perygl o beidio dysgu’r gwersi o’n hanes.

Mae elfen o’r un peth yn y gân, ‘Gadael Fynd’, hefyd. Teithio adre ar noson aeafol ar ôl perfformio ysbrydolodd, ‘Dim Ar Ôl’. Teimlad cyfarwydd i Mered dors y 50 mlynedd diwethaf! Mae ‘Gâd i Mi Fod’ a ‘Ddim i Fod’, sy’n cloi’r albwm, yn anogaeth i fyw yn y presennol yn hytrach na gadael i atgofion ein llethu.

Mae nifer o’r criw arbennig o gerddorion o’r albwm blaenorol, ‘Ydi Hi’n Amser?’, yn cyfrannu unwaith eto, gyda’r gantores dalentog Lleucu Gwawr, y tro hwn, yn canu lleisiau harmoni ar bump o’r traciau.

Dyma ‘Y Cyntaf Un’ o’r albwm:

Gadael Ymateb